Gwobr arbennig i gofio 'cyfraniad oes' R Alun Evans

R Alun Evans

Bydd gwobr arbennig yn cael ei sefydlu i gofio am un o hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, y Parchedig Ddoctor R Alun Evans.

Bu farw ychydig ddyddiau wedi’r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd yn 86 oed.

Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr, awdur a gweinidog gyda’r Annibynwyr.

Roedd hefyd yn ffigwr amlwg gyda’r Eisteddfod gan ymgymryd â sawl rôl allweddol, cyn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd am oes o wasanaeth i’r Brifwyl.

Mae’r Eisteddfod wedi bod yn trafod gyda’r teulu ac fe fydd gwobr goffa yn cael ei rhoi i gofio ei gyfraniad i’r brifwyl. 

"Dros y misoedd diwethaf, mae’r Eisteddfod wedi bod yn cydweithio gyda’r teulu er mwyn sicrhau bod ei gyfraniad oes i’r Brifwyl yn cael ei ddathlu eleni ac wrth edrych i’r dyfodol, a bydd gwobr arbennig i gofio am ei gyfraniad pwysig yn cael ei lansio.

"Bydd y wobr yn dathlu diwylliant Cymru ac bydd unrhyw un yn gallu enwebu unigolyn ar gyfer yr anrhydedd,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.

Bydd y wobr yn cael ei chyhoeddi yn ystod sesiwn i gofio am R Alun Evans ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun.

Yn ôl Betsan Moses roedd yn hael iawn ei amser.

“Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael. Roedd yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod yn glir, ac yn rhannu o’i brofiad a’i syniadau gyda ni tan y diwedd. 

Roedd yn arweinydd naturiol a gofalus yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, ac roedd ein perthynas gydag R Alun yr un mor gryf ac agos ag erioed tan y diwedd.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.