Newyddion S4C

Miloedd mewn gorymdaith asgell dde yng nghanol Llundain

27/07/2024
rali

Mae miloedd o bobol wedi ymgasglu yng nghanol Llundain ar gyfer gorymdaith dan arweiniad yr ymgyrchydd asgell dde Tommy Robinson.

Mae tua 1,000 o blismyn wedi’u hanfon i strydoedd y ddinas i “gadw’r heddwch” gyda disgwyl protest arall yn gwrthwynebu protest Mr Robionson a'i ddilynwyr. 

Ymgasglodd cefnogwyr Mr Robinson ar y Strand amser cinio yn chwifio baneri.

Roedd y dorf yn canu “Rule Britannia”, “Rydyn ni eisiau ein gwlad yn ôl” ac enw Mr Robinson.

Gwelwyd un aelod o'r dorf yn dringo ar ben blwch ffôn, tra bod eraill yn dal placardiau a oedd yn darllen “Not far right, just right”.

Roedd nifer o faneri Israel hefyd yn cael eu chwifio gan rai.

Mewn post a rannwyd ar X cyn y digwyddiad, dywedodd Mr Robinson, sef Stephen Yaxley Lennon i ddefnyddio ei enw genedigol, mai’r brotest fyddai’r “rali wladgarol fwyaf a welodd y DU erioed”.

Symudodd ei brotest o’r Llysoedd Barn Brenhinol i rali yn Sgwâr Trafalgar tua 13.45.

Yn y cyfamser, gorymdeithiodd gwrth-brotest gan Stand Up To Racism a Phrosiect Chyfiawnder a Heddwch Jeremy Corbyn, y cyn-arweinydd Llafur, o Sgwâr Russell i rali yn Whitehall.

Fe’i cefnogwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) ac 11 o undebau llafur, yn ogystal â grwpiau fel Stop the War Coalition, Peace & Justice Project ac Unite Against Fascism.

Roedd protestwyr yn y rali hon yn dal placardiau oedd yn darllen “na i hiliaeth, na i gasineb” ac yn gweiddi “ni fyddwn yn dawel”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.