Elfyn Evans yn y chweched safle ar Rali Latfia
Mae'r Cymro Elfyn Evans yn y chweched safle ar ddiwedd wyth o gymalau ar drydydd diwrnod Rali Latfia.
Fe ddechreuodd Evans gymalau ddydd Gwener yn y pedwerydd safle cyn cwympo nôl i'r seithfed safle erbyn diwedd saith cymal y dydd.
Fe lwyddodd Evans i godi un safle ar ôl pedwar cymal cyntaf ddydd Sadwrn.
Ond fe ddaeth eiliad o bryder i Evans wrth iddo adael y ffordd ar gymal 15 yn hwyrach yn y dydd ond fe lwyddodd i ail-ymuno a’r ffordd yn fuan i gwblhau’r cymal.
Kalle Rovanperä o'r Ffindir sy'n arwain y rali.
Fe ddechreuodd y rali ddydd Iau ac mae'n dod i ben ar ôl pedwar cymal ddydd Sul.
Roedd Evans yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y byd cyn Rali Latfia.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1814718797942522279
Llun: X/Elfyn Evans