'Brawychus': Nifer y bobl ifanc sy'n gwneud cais i'r brifysgol ar eu isaf yng Nghymru ers 15 mlynedd
Mae nifer y bobl ifanc sydd wedi gwneud cais i fynd i’r brifysgol ar eu hisaf yng Nghymru ers 15 mlynedd.
Ac yn ôl corff sy’n cynrychioli sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae’r gostyngiad hwnnw yn “frawychus.”
Dywedodd Prifysgolion Cymru mai Cymru sydd â’r gyfran isaf o bobl ifanc 18 oed sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol yn y DU.
Ac mae’r bwlch yn y gyfradd ymgeisio yng Nghymru a gwledydd eraill y DU yn fwy “nag ar unrhyw adeg yn ein hanes diweddar,” meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru.
Daw ei sylwadau mewn ymateb i ffigyrau diweddaraf UCAS - y corff sy'n gyfrifol am geisiadau i brifysgolion – a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau.
Maen nhw wedi dweud mai 20,960 o bobl 18 oed yng Nghymru sydd wedi gwneud cais i’r brifysgol eleni.
Mae hyn yn golygu fod 33.8% o bobl ifanc yng Nghymru ymgeisio i fynd i’r brifysgol, o gymharu â 41.9% ar hyd a lled y DU cyfan.
'Effaith hirdymor'
Fe fydd y gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr yn golygu “oblygiadau hirdymor i Gymru,” medd Ms Wilkinson.
“Mae’r diwydiannau a fydd yn sbarduno ein twf economaidd yn y degawdau i ddod yn dibynnu’n helaeth ar raddedigion," meddai.
“Ond nid ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus yn unig fydd yn dioddef; byddai pobl hefyd yn elwa o’r profiad trawsnewidiol yn sgil addysg uwch,” meddai.
'Calonogol'
Ond mae’n “galonogol” gweld mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn ceisiadau gan israddedigion rhyngwladol hefyd, ychwanegodd.
Ac er y gostyngiad cyffredinol, mae nifer y ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu’r fwyaf o unrhyw wlad arall yn y DU.
“Mae'n galonogol gweld Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr,” meddai.