Newyddion S4C

Person wedi marw ar ôl gwrthdrawiad mewn maes parcio yng Nghaerffili

15/07/2024
Yr ambiwlans awyr yng Nghaerffili

Mae person wedi marw ar ôl gwrthdrawiad mewn maes parcio yng Nghaerffili fore Llun.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i faes parcio archfarchnad Morrisons tua 07:30.

Un car yn unig oedd yn y gwrthdrawiad a bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, yr ambiwlans awyr a'r gwasanaeth tân eu galw yno.

Mae teulu'r gyrrwr wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Llun: Hywel Carlick

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.