Newyddion S4C

Pum corff gwella addysg ysgolion 'i ddod i ben fis Mawrth nesaf'

13/07/2024
Arholiad TGAU

Bydd pum corff gwella addysg ysgolion yng Nghymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf yn ôl adroddiad blynyddol un o'r cyrff. 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth eu bod yn ystyried dyfodol y pum consortiwm addysg yng Nghymru, sy'n gweithio'n rhanbarthol gydag awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ac i wella safonau addysgol.

Mae adroddiad blynyddol y consortiwm addysg ar gyfer y gogledd, GwE, i un o bwyllgorau craffu Cyngor Gwynedd yn nodi: "Dyma’r Adroddiad Blynyddol olaf y bydd GwE yn ei darparu ar gyfer y pwyllgor craffu.

"Ar 31 Ionawr⁠⁠, 2024, cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig: Y cam nesaf yn yr adolygiad o wella ysgolion - rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru. 

"Yn sgil hyn, bydd GwE a’r consortia rhanbarthol eraill yn dod i ben ar Fawrth 31, 2025."

Fe fydd adroddiad blynyddol GwE yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd ddydd Iau nesaf.

Y pum consortiwm sydd yn gweithredu i wella addysg ysgolion ar hyn o bryd yw:

1) Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam

2) Partneriaeth Canolbarth Cymru (PACC) ar gyfer Powys a Cheredigion.

3) Partneriaeth ar gyfer Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe. 

4) Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) ar gyfer Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

5) Consortiwm Canolbarth y De (CCD) ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried dyfodol y pum consortiwm wedi adolygiad dan arweiniad yr Athro Dylan Jones.

Yn ei lythyr at y Gweinidog Addysg Jeremy Miles, dywedodd yr Athro Jones fod "ysgolion yn wynebu heriau sylweddol ac mae'n hanfodol bod y system gwella ysgolion yng Nghymru yn darparu'r seilwaith gorau a mwyaf cost-effeithiol".

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r consortia addysg rhanbarthol yn gysylltiedig ac yn cael eu cyfarwyddo gan awdurdodau lleol ac nid Llywodraeth Cymru.

"Mae'r penderfyniad ar ddyfodol y consortia addysg yn fater i awdurdodau lleol.

"Mewn adolygiad diweddar, fe wnaeth awdurdodau lleol nodi eu bod nhw o blaid symud i ffwrdd o gefnogaeth ranbarthol ac felly rydym ni'n disgwyl gweld newidiadau i'r trefniadau presennol."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.