Taylor Swift i berfformio fersiwn newydd o'i thaith Eras yn y DU
Bydd y gantores Taylor Swift yn ailstrwythuro ei thaith Eras ar gyfer cyngherddau yn y DU.
Mae disgwyl i'r fersiwn newydd o'r daith boblogaidd gynnwys newidiadau i’r rhestr caneuon yn ogystal â'r cantorion cefnogol.
Mae'r gantores Americanaidd eisoes wedi ailstrwythuro'r cyngerdd ar ddechrau cymal Ewropeaidd ei thaith ym Mharis ym mis Mai.
Fe gafodd wared â sawl cân er mwyn perfformio cerddoriaeth o’i halbwm newydd, The Tortured Poets Department.
Bydd Swift yn cyrraedd y DU ar 7 Mehefin ac yn perfformio am dair noson yn Stadiwm Murrayfield, Caeredin.
Yn dilyn hynny bydd yn perfformio am dair noson yn Stadiwm Anfield, Lerpwl, ac yna yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Bydd yn gorffen ei chymal Prydeinig o'r daith gyda thair sioe yn Wembley, Llundain.
Bydd y band pop-pync o’r Unol Daleithiau, Paramore, yn cefnogi'r gantores yn y DU.
Yn ymuno â Paramore yn Llundain fydd y gantores Americanaidd Mette ar 21 Mehefin, y gantores Brydeinig Griff ar 22 Mehefin, a'r canwr-cyfansoddwr Benson Boone ar 23 Mehefin.