Newyddion S4C

Rygbi: Liam Williams a Cory Hill yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer gemau'r haf

03/06/2024
Liam Williams / Cory Hill

Bydd y ddau chwaraewr profiadol Liam Williams a Cory Hill yn dychwelyd i garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau’r haf.

Wrth enwi carfan o 36 o chwaraewyr ddydd Mawrth, mae Warren Gatland wedi dewis pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol.

Bydd y tîm yn herio pencampwyr y byd, De Affrica yn Twickenham fis Mehefin, cyn teithio i Awstralia yng Ngorffennaf i herio’r Wallabies mewn dwy gêm brawf ac un yn erbyn clwb Queensland Reds.

Ymhlith y pedwar chwaraewr di-gap mae dau chwaraewr o Gaerdydd, y mewnwr Ellis Bevan a’r cefnwr Jacob Beetham, yn ogystal â’r asgellwyr, Keelan Giles o'r Gweilch a Josh Hathaway o Gaerloyw.

Mae cefnwr Liam Williams a’r clo Cory Hill, sydd yn chwarae rygbi yn Japan, wedi derbyn galwad yn ôl i’r garfan gan Gatland.

Wedi anafiadau yn ystod y Chwe Gwlad, bydd Jac Morgan, Dewi Lake, Ben Carter Taine Plumtree a Christ Tshiunza yn dychwelyd i garfan, sydd ag oedran cyfartalog o 25.

Nid yw Josh Adams, Ryan Elias a Will Rowlands wedi eu cynnwys yn y garfan er mwyn rhoi seibiant iddyn nhw dros yr haf.

Dywedodd Warren Gatland bod y garfan wedi’i ddewis yn “fwy na’r arfer” gan nad oedd chwaraewyr sydd yn chwarae i glybiau’n Lloegr ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica. Mae wedi cadarnhau y bydd yn torri’r garfan i 34 cyn teithio i Awstralia.

"Mae pawb yn deall ein bod yn adeiladu tuag at Gwpan y Byd yn 2027,” meddai. 

"Ry’n ni’n creu mwy o ddyfnder yn y garfan a gall hynny ond bod yn beth da."

O safbwynt y gapteiniaeth, dywedodd Gatland: "Pan ddaw’r garfan at ei gilydd fe wnawn ni asesu’r sefyllfa honno gan fod yr elfen arweiniol honno’n bwysig iawn wrth edrych tua’r dyfodol.

"Mae’n debygol y gwnawn ni gyhoeddi enw'r capten ar gyfer yr ornest yn erbyn De Affrica cyn datgelu pwy fydd yn ein harwain ar y daith."

Carfan Cymru ar gyfer gemau’r haf

Blaenwyr:
Corey Domachowski (Caerdydd – 10 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 2 cap)
Gareth Thomas (Gweilch – 30 cap)
Elliot Dee (Dreigiau – 51 cap)
Dewi Lake (Gweilch – 12 cap)
Evan Lloyd (Cardiff Rugby – 2 cap)
Sam Parry (Gweilch – 7 cap)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 6 cap)
Archie Griffin (Bath Rugby – 1 cap)
Dillon Lewis (Harlequins – 57 cap)
Harri O’Connor (Scarlets – 1 cap)
Henry Thomas (Castres Olympique – 4 cap)
Ben Carter (Dreigiau – 11 cap)
Cory Hill (Secom Rugguts – 32 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 17 cap)
Matthew Screech (Dreigiau – 1 cap)
Christ Tshiunza (Caerwysg – 10 cap)
Mackenzie Martin (Caerdydd – 3 cap)
Jac Morgan (Gweilch – 15 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 2 cap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 18 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 48 cap)

Cefnwyr:
Ellis Bevan (Caerdydd – heb gap)
Gareth Davies (Scarlets – 76 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 21 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 12 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 11 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 2 cap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 36 cap)
Owen Watkin (Gweilch – 38 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 19 cap)
Keelan Giles (Gweilch – heb gap)
Josh Hathaway (Caerloyw - heb gap)
Liam Williams (Kubota Spears – 89 cap)
Jacob Beetham (Caerdydd – heb gap)
Cameron Winnett (Caerdydd – 5 cap)

Gemau’r Haf

De Affrica v Cymru – Dydd Sadwrn 22 Mehefin – 14.00
Awstralia v Cymru - Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf - 10.55
Awstralia v Cymru – Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf - 10.55
Queensland Reds v Cymru – Dydd Gwener 19 Gorffennaf - 10.55

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.