Dau chwaraewr ifanc o Glwb Rygbi Wrecsam wedi marw mewn gwrthdrawiad
28/05/2024
Mae dau aelod o dîm ieuenctid Clwb Rygbi Wrecsam wedi marw mewn gwrthdrawiad.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y clwb eu bod wedi derbyn y newyddion trist "ein bod wedi colli dau chwaraewr o'n tîm ieuenctid mewn damwain traffig ffordd.
"Ar hyn o bryd rydym yn gofyn ein bod i gyd yn parchu dymuniad y teuluoedd am breifatrwydd."
Daeth negeseuon o gydymdeimlad gan glybiau rygbi ar hyd a lled y wlad i gyhoeddiad y clwb am y marwolaethau.
Nid oes rhagor o fanylion am y gwrthdrawiad ar hyn o bryd.
Llun: Google