Jeremiah Azu yw’r Cymro cyntaf o dan 10 eiliad
26/05/2024
Jeremiah Azu yw’r Cymro cyntaf i redeg y 100 medr o dan 10 eiliad.
Fe wnaeth Azu, 23 oed o Gaerdydd, redeg 9.97 eiliad wrth ennill ras yn Leverkeusen yn Yr Almaen ddydd Sadwrn.
Ef yw’r rhedwr cyntaf o Ewrop i redeg o dan 10 eiliad eleni.
Mae'n wythfed ar restr rhedwyr cyflymaf Prydain, yn gydradd gyda Dwain Chambers ac Adam Gemili.
Azu oedd eisoes y Cymro cyflymaf erioed ar ôl iddo dorri record Gymreig y ras 100 medr ym mis Gorffennaf y llynedd gydag amser o 10.08 eiliad.
Roedd wedi rhedeg 9.90 eiliad mewn ras ddwy flynedd yn ôl ond gyda chymorth y gwynt felly nid oedd yr amser yn cael ei gofnodi’n ddilys.