Anfon 18,000 litr o ddŵr i geisio llenwi pwll nofio Castell Newydd Emlyn
Mae Dŵr Cymru wedi anfon 18,000 litr o ddŵr er mwyn helpu'r ymdrech i lenwi pwll nofio yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin
Oherwydd “pwysedd dŵr isel”, dim ond mymryn o ddŵr sydd yn y pwll nofio ar hyn o bryd.
Dywedodd Dŵr Cymru, a wnaeth anfon tancer yn dal 18,000 litr o ddŵr i'r safle nos Sul, eu bod yn ymchwilio i’r achos.
Ond bydd angen rhagor o ddŵr er mwyn gallu ail agor y pwll nofio 25 metr ac ail ddechrau sesiynau nofio wythnosol i ysgolion lleol.
Mewn datganiad, dywedodd y grŵp sy'n gyfrifol am y pwll: “Yn anffodus, ni allwn ni gadarnhau dyddiad ail agor ar hyn o bryd gan ein bod yn gobeithio y bydd Dŵr Cymru yn anfon mwy o danceri dŵr oherwydd bydd hyn yn ein helpu i ailagor yn gynt.”
Mae’r grŵp hefyd yn apelio ar y cyfryngau cymdeithasol i fusnesau eu helpu i gael dŵr i mewn i’r pwll.
Mae dros 200 o bobl bellach wedi rhannu'r apêl ar Facebook.
Dywedodd Dŵr Cymru: “Rydym yn ymchwilio i’r rheswm dros y pwysedd dŵr isel sy’n effeithio ar bwll cymunedol Castell Newydd Emlyn a hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra."