Bernard Hill: Actor Lord of the Rings a Titanic wedi marw yn 79 oed
Mae’r actor Bernard Hill wedi marw yn 79 oed.
Roedd yn fwyaf enwog am chwarae Y Brenin Théoden yng nghyfres Lord of the Rings, capten y Titanic yn y ffilm o’r un enw, a Yosser Hughes yn Boys from the Blackstuff.
Ef oedd yr unig actor i ymddangos mewn mwy nag un ffilm a enillodd enillodd 11 Oscar, am ei ran yn The Lord of the Rings: The Return of the King a Titanic.
Ymddangosodd yn y ffilm Gymraeg Milwr Bychan yn 1987 gan chwarae rhan un o swyddogion San Steffan.
Cadarnhaodd ei asiant ei fod wedi marw ddydd Sul.
Dywedodd y gantores a'r actores Barbara Dickson ei fod yn "actor gwych. Braint oedd cael bod wedi ei nabod."
Inline Tweet: https://twitter.com/BarbaraDickson/status/1787083243260350672
Dywedodd Lindsay Salt, cyfarwyddwr drama y BBC: “Roedd ei yrfa hirhoedlog yn llawn rolau eiconig a rhyfeddol oedd yn dyst i’w dalent anhygoel.
“O Boys From The Blackstuff, i Wolf Hall, The Responder, a llawer mwy, rydyn ni’n teimlo’n wirioneddol anrhydeddus i fod wedi gweithio gyda Bernard yn y BBC.
“Mae ein meddyliau gyda’i anwyliaid ar yr adeg drist hon.”