Y gyflwynwraig Zoe Ball 'ar goll' wedi marwolaeth ei mam
Mae'r gyflwynwraig radio a theledu Zoe Ball wedi dweud bod ei mam wedi marw o ganser.
Fe ddywedodd wrth ei gwrandawyr ar ei rhaglen radio ym mis Mawrth fod ei mam wedi cael diagnosis o ganser pancreatig.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fawrth dywedodd Zoe Ball fod ei mam wedi dysgu llawer iddyn nhw fel plant.
"Cwsg yn dawel mam annwyl. Diolch am ein dysgu ni sut i garu yn ddiamod, i wastad ddangos dewrder ac empathi a hyd yn oed yn y dyddiau mwyaf tywyll i ddangos mai chwerthin yw'r anrheg gorau," meddai.
Ychwanegodd eu bod nhw yn teimlo "ar goll" hebddi ond y byddant yn "dal gafael yn dynn yn ei gilydd."
Llun: PA