Newyddion S4C

Adeilad ger llysgenhadaeth Iran wedi'i ddymchwel mewn ymosodiad yn Syria

01/04/2024

Adeilad ger llysgenhadaeth Iran wedi'i ddymchwel mewn ymosodiad yn Syria

Mae Iran wedi cyhoeddi fod un o'u prif swyddogion milwrol wedi marw yn ystod ymosodiad ar adeilad ger eu llysgenhadaeth ym mhrifddinas Syria. 

Maen nhw yn beio Israel am yr ymosodiad o'r awyr. Ac mae'r adeilad wedi ei ddifrodi'n llwyr.    

Yn ôl yr awdurdodau yn Syria, mae nifer o bobl wedi eu lladd neu eu hanafu. 

Yn gadfridog blaenllaw, bu farw Brig-Gen Mohammad Reza Zahedi, 63 oed, yn dilyn yr ymosodiad

Mae lluniau fideo yn dangos mwg a llwch yn codi o’r adeilad ger llysgenhadaeth Iran yn Damascus sydd ar brif ffordd yn ardal orllewinol Mezzeh.

Dywedodd byddin Syria bod awyrlu Israel wedi targedu’r adeilad tua 17.00 amser lleol.

Cafodd rhai o’r taflegrau eu hatal gan fyddin Syria ond fe lwyddodd rhai i lanio gan “ddinistrio’r adeilad cyfan, gan ladd ac anafu pawb a oedd yno,” meddai swyddogion. 

Mae’r fyddin wedi dweud eu bod wrthi yn ceisio achub y rhai sydd yn gaeth o dan weddillion yr adeilad. 

Yn ôl mudiad Prydeinig dros hawliau dynol pobl Syria, mae wyth o bobl wedi’u lladd yn yr ymosodiad. 

Mae Israel wedi cynnal nifer fawr o ymosodiadau ar dargedau sy'n gysylltiedig ag Iran yn Syria yn y blynyddoedd diwethaf, ond anaml y maen nhw'n hawlio cyfrifoldeb am hynny.  

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.