Newyddion S4C

Yr actor Chance Perdomo wedi marw'n 27 oed mewn damwain beic modur

31/03/2024
chance perdomo

Mae’r actor Prydeinig-Americanaidd Chance Perdomo wedi marw mewn damwain beic modur yn 27 oed.

Roedd y seren deledu gafodd ei eni yn America a'i fagu yn y DU yn adnabyddus am chwarae rhan Andre Anderson yn y gyfres deledu Gen V.

Dywedodd yr awdurdodau yn yr UDA ddydd Sadwrn nad oedd unrhyw unigolion eraill yn y gwrthdrawiad.

Rhoddodd cynhyrchwyr Gen V deyrnged i’r actor ifanc, a oedd hefyd yn adnabyddus am ei waith ar y gyfres oruwchnaturiol Chilling Adventures Of Sabrina, gan ei alw’n “berfformiwr hynod dalentog”.

Dywedodd y cynhyrchwyr mewn datganiad: “Mae teulu cyfan Gen V wedi’u dryllio gan farwolaeth sydyn Chance Perdomo.

“Mae Amazon MGM Studios a Sony Pictures Television yn estyn ein meddyliau a’n cefnogaeth ddiffuant i deulu Chance a phawb oedd yn ei garu ar yr amser anodd hwn.

“Ni allwn ddirnad hyn o gwbl.

“I’r rhai ohonom a oedd yn ei adnabod ac yn gweithio gydag ef, roedd Chance bob amser yn swynol ac yn gwenu, yn rym natur brwdfrydig, yn berfformiwr anhygoel o dalentog ac yn fwy na dim arall, yn berson caredig, hyfryd iawn.

“Nid yw hyd yn oed ysgrifennu amdano yn yr amser gorffennol yn gwneud synnwyr.

“Mae’n ddrwg gennym ni dros deulu Chance, ac rydyn ni’n galaru am golli ein ffrind a’n cydweithiwr.

“Cofleidiwch eich anwyliaid heno.”

Llun: Creative Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.