Darganfod 750 bedd ar safle hen ysgol i blant Cenedl Gyntaf yng Nghanada
24/06/2021
Mae un o lwythau brodorol Cenhedloedd Cyntaf Canada wedi dweud fod 751 o feddau oedd heb eu cofnodi wedi eu darganfod ar safle hen ysgol breswyl yn nhalaith Saskatchewan.
Hwn yw'r ail ddarganfyddiad o'r fath yn yr wythnosau diwethaf, wedi i weddillion cyrff 215 o blant brodorol gael eu darganfod ar safle hen ysgol breswyl Kamloops yn nhalaith British Columbia.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Ffederasiwn y Cenhedloedd Brodorol, sydd yn cynrychioli 74 o Genhedloedd Cyntaf yn Saskatchewan, yn ôl The Washington Post.
Darllenwch y stori'n llawn yma.