Rhyddhau dyn o dan ymchwiliad mewn cysylltiad â marwolaeth seren Gogglebox
Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth un o sêr Gogglebox, George Gilbey, wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Bu farw George Gilbey ar ôl disgyn o uchder yn ei waith ddydd Mercher.
Cafodd Heddlu Essex ac Ambiwlans Awyr eu galw i Shoebury, ger Southend-on-Sea, wedi adroddiadau bod dyn wedi disgyn o uchder.
Bu farw'r gŵr 40 oed yn y fan a’r lle.
Dywedodd yr heddlu bod dyn yn ei 40au o ardal Witham, wedi cael ei ryddhau ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod yr "ymchwiliad yn un ar y cyd gyda'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch ac mae ein hymholiadau yn parhau".
Roedd Mr Gilbey wedi bod yn rhan o wyth cyfres o Gogglebox ar Channel 4 rhwng 2013 a 2018.
Roedd hefyd wedi ymddangos yng nghyfres Celebrity Big Brother ar Channel 5 yn 2014, gan orffen yn bedwerydd.