Arestio dyn 27 oed ar ôl darganfod ffatri ganabis 'soffistigedig' yng Nghaerdydd
19/03/2024
Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ar ôl i'r heddlu ddarganfod ffatri ganabis "soffistigedig" yng Nghaerdydd.
Yn dilyn gwybodaeth gan y cyhoedd, daeth swyddogion o hyd i'r ffatri mewn eiddo "gwag" ar Ffordd Sandringham yn y brifddinas.
Cafodd yr heddlu hyd i 674 o blanhigion ac fe gafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o dyfu canabis a defnyddio cyflenwad trydan yn anghyfreithlon.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Heddlu De Cymru fod gangiau troseddol yn aml yn gyfrifol am ffatrioedd o'r math yma.