Newyddion S4C

Actor Coronation Street William Roache yn cael gorchymyn i dalu dyled treth

11/03/2024
Yr actor William Roache

Mae'r actor William Roache wedi cael gorchymyn i dalu ei ddyled treth o fewn tri mis.  

Cafodd ei achos ei glywed yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Llun. 

Doedd actor y gyfres Coronation Street ddim yn bresennol yn y gwrandawiad. 

Dyw'r swm sy'n ddyledus ddim wedi ei ddatgelu, ond dywedodd cyfreithwyr ar ran Adran Cyllid a Thollau EF  bod y ddyled bellach wedi gostwng am fod taliadau wedi eu gwneud. 

Dywedodd Jacquille Jarrett, ar ran yr Adran Cyllid a Thollau fod Mr Roache wedi gofyn am 12 wythnos o oedi er mwyn "canitáu iddo werthu adeilad." Doedd dim gwrthwynebiad i'r cais hwnnw. 

Bydd achos William Roache yn cael ei glywed eto fis Mehefin. 

Mae'r actor 91 oed yn adnabyddus am chwarae rhan Ken Barlow yn opera sebon ITV, Coronation Street ers mwy na 60 o flynyddoedd. Ymddangosodd ym mhennod gyntaf y gyfres nôl yn 1960.  

Mae e wedi torri record byd Guinness, gan mai fe sydd wedi actio hiraf erioed mewn opera sebon. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.