Menyw wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth merch 10 oed
05/03/2024
Mae menyw wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ferch 10 oed gael ei darganfod yn farw gan yr heddlu.
Dywedodd swyddogion fod y plentyn wedi ei darganfod ag anafiadau yn Rowley Regis, Gorllewin Canolbarth Lloegr ddydd Llun.
Mae menyw 33 oed, y credir ei bod yn hysbys i’r ferch, wedi’i chymryd i’r ddalfa i’w holi.
Dywedodd yr heddlu ei bod newydd gychwyn eu hymchwiliad a bod eu meddyliau gyda'u hannwyliaid.
Llun: Google