Newyddion S4C

Carl Weathers: Seren Hollywood o gyfres Rocky yn marw'n 76 oed

02/02/2024
Carl Weathers

Mae’r seren Hollywood Carl Weathers, a wnaeth chwarae rôl Apollo Creed yng nghyfres o ffilmiau byd-enwog Rocky, wedi marw yn 76 oed.

Bu farw yn “heddychlon” yn ei gwsg yn ei gartref yn Los Angeles nos Iau, mae ei deulu wedi cadarnhau.

Mewn datganiad, dywedodd: “Rydym yn drist iawn i gyhoeddi’r newyddion am farwolaeth Carl Weathers.

“Mi oedd Carl yn unigolyn anhygoel a wnaeth byw bywyd i’r eithaf.

“Trwy ei gyfraniad i ffilm, teledu, y celfyddydau a chwaraeon, mae wedi gadael marc gweladwy ac mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac ar draws cenedlaethau. 

“Roedd yn frawd, tad, tad-cu, partner a ffrind roedd pawb yn ei garu.”

Roedd yr actor hefyd wedi serennu yn y ffilmiau Predator a Happy Gilmore

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.