Ioan Gruffudd yn cyhoeddi ei fod wedi dyweddïo
Mae’r actor Ioan Gruffudd wedi cyhoeddi ei fod ef a’r actores a’r cynhyrchydd Bianca Wallace wedi dyweddïo.
Fe gyhoeddodd lun ar y cyfryngau cymdeithasol o’r ddau ohonynt, gyda’i ddyweddi yn gwisgo modrwy.
Fe ddechreuodd ei yrfa actio ar y gyfres opera sebon Pobol y Cwm cyn serennu ar gyfresi teledu Hornblower a Liar ac mewn ffilmiau megis Fantastic Four a Titanic.
Mae’r ddau wedi bod mewn perthynas ers iddo wahanu o’i wraig Alice Evans ddwy flynedd yn ôl.
Mae ganddo ddau o blant o’i briodas gyntaf.
Yn 2022 fe wnaeth Bianca Wallace, 31 oed, ddatgelu ei bod wedi bod yn byw gyda’r cyflwr sglerosis ymledol (MS) ers iddi fod yn 25 oed.
Mae’r ddau ar hyn o bryd yn ymddangos mewn drama ‘A Ray of Sunshine’ am fenyw sy’n delio gyda diagnosis o MS.
Llun: Instagram/Ioan Gruffudd