Tân mewn meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd
Tân mewn meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd
Canolfan fusnes Y Wern yn y Ty-du ger Casnewydd yn wenfflam neithiwr.
Y Gwasanaeth Tan yn gwneud eu gorau i ddiffodd y fflamau.
Bu'n rhaid i gwsmeriaid bragdy Tiny Rebel gerllaw, adael y safle.
Pan oedd y tan ar ei anterth neithiwr roedd 75 o ddiffoddwyr yma.
Mae nifer wedi bod yma dros nos. Byddan nhw dal yma gydol y dydd yn ymchwilio i achos y tan.
Fe gafodd Meithrinfa Wibli Wobli ac adeilad Tots Play islaw eu dinistrio yn llwyr.
Cwta flwyddyn sydd ers i Feithrinfa Wibli Wobli agor eu drysau.
Y feithrinfa annibynnol Gymraeg gyntaf yng Nghasnewydd.
Eisoes, mae 60 o blant ganddyn nhw ar y llyfrau.
Dw i'n teimlo'n devastated a'r staff i gyd hefyd.
Ni'n poeni am y gwaith, y staff, y gwasanaethau i blant i rieni a'r dyfodol i ni.
Ni wedi gweithio mor galed ar y feithrinfa, i sefydlu'r peth a nawr, mae popeth yn gone so mae'n devastating.
Rhoi gwybod i rieni a cheisio gwneud trefniadau dros dro oedd y flaenoriaeth heddiw yng nghanol y sioc a'r siom.
Ffaelu credu taw meithrin ni yw hwnna. Jyst edrych arno fe nawr - jyst gytud. Ie, devastated.
Mae lot o waith wedi mynd mewn i sefydlu'r feithrinfa yma hefyd.
Chi wedi bod yn rhan o'r gwaith yna.
Ydyn, ni newydd gael llawr newydd sbon wythnos diwethaf.
Ni jyst 'di rhoi gymaint o waith i mewn a dal yn gwneud hynny.
I troi lan heddiw a gweld yr adeilad fel hwnna, mae e jyst...! Jyst yn meddwl am bethau'r plant sydd tu mewn.
Roedd llwyth o bobl yn dod. Rhestr aros gyda ni.
O'n ni'n gwneud clwb yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd llwyth o bobl yn dod i hwnna. Ni'n jyst methu credu fe.
Mae tudalen GoFundMe eisoes wedi codi dros £4,000.
Bydd gefnogaeth i'w helpu i ail-agor medd cefnogwyr addysg Gymraeg lleol.
Dw i'n hyderus yn Natasha a'r tîm nad yw hwn yn mynd i stopio nhw.
Ni'n gwybod bod y gymuned tu ôl iddyn nhw hefyd yn sicrhau y bydd Wibli Wobli yn canfod cartre newydd yn fuan ar gyfer y teuluoedd a'r plant sydd bore 'ma heb ofal dydd.
Gobeithio bydd hynny'n newid yn y diwrnodau a'r wythnosau i ddod.
Chafodd neb ei anafu yn y tan.
Mae'r ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn parhau.
Mae'r dinistr wedi gadael ei hoel ar y stad fach brysur hon.