Ramsay a Roberts yn sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn Baku
Ramsay a Roberts yn sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn Baku
Mae Cymru wedi curo Twrci eu hail gêm ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn Baku, Azerbaijan, yn dilyn perfformiad llawn egni a phenderfynoldeb.
Fe all y fuddugoliaeth nos Fercher roi'r cyfle iddynt ennill lle yn rownd yr 16 olaf.
Aaron Ramsey ddaeth a gôl gyntaf y gêm i Gymru, gyda Connor Roberts yn sicrhau mantais gadarn gyda ail gôl y noson yn ystod y munudau olaf.
Yn siarad wedi'r gêm, dywedodd Ben Davies fod y garfan yn "haeddu'r" fuddugoliaeth, gan ychwanegu fod gan Gymru "lawer mwy" i'w gynnig.
Ramsay'n disgleirio
Roedd hi’n ddechrau da i Gymru a Thwrci, gyda’r ddau dîm yn methu cyfleoedd yn y munudau cyntaf.
Yn yr hanner awr cyntaf o chwarae daeth nifer o gynigion i’r ddau dîm, gyda pheniad gan Kieffer Moore yn methu’r rhwyd, ac yna arbediad sydyn gan Ward funudau yn ddiweddarach i achub Cymru.
Methodd Ramsay gynnig arall am gôl gyda’r cloc ar 25 o funudau.
Twrci fu’n rheoli’r chwarae am gyfnodau o'r hanner, cyn i Aaron Ramsey ddangos fflach o'i athrylith a derbyn ei haeddiant gyda gôl wych, wedi i Bale grymanu'r bêl i'w gyfeiriad.
Roedd y cyd-chwarae rhwng y ddau drwy gydol y gêm yn wobr i'r cefnogwyr hynny oedd wedi teithio i Azerbaijan.
Tri chynnig i Gymro oedd hi felly yn y pen draw pan sgoriodd Ramsay, a Chymru'n cyrraedd hanner amser gyda mantais gadarn yn erbyn y gwrthwynebwyr.
Mewn ail hanner a ddechreuodd yr un mor egnïol â'r hanner cyntaf , doedd Twrci ddim yn mynd i wneud pethau’n hawdd i ochr Rob Page.
Ddeng munud i mewn, ac fe geisiodd Aaron Ramsay am ei ail gôl – ond cafodd ei drechu gan arbediad Ugurcan Cakir.
Mewn cyfle a allai fod wedi selio'r fuddugoliaeth i Gymru, mi fethodd Bale gic o'r smotyn, gyda’r bêl yn gwibio'n bell uwchben y trawst.
Methu peniad arall wnaeth Bale, gyda Ramsay yn arbed cynnig gan Dwrci funudau yn ddiweddarach wrth amddiffyn yn gadarn yn y cwrt cosbi.
Cafodd peniad gan Merih Demiral ei harbed gan Ward – cyn i bethau droi'n danbaid funudau cyn y chwiban olaf - a'r ddau dîm yng ngyddfau ei gilydd..
Cic gornel oedd y symudiad olaf, a chyfle i Gareth Bale ddisgleirio unwaith eto pan redodd heibio i ddau chwaraewr twrci ar hyd y llinell gefn, cyn pasio i Connor Roberts, ac yntau'n yn sgorio'r ail gôl i Gymru.
A gyda'r chwiban olaf fe ddaeth gorfoledd a dathlu i'r ychydig o gefnogwyr y Wal Goch oedd wedi mentro i Baku. Perfformiad llawn egni felly - a Chymru'n haeddu'r fuddugoliaeth yn dilyn gwledd o bêl-droed creadigol.
Y Garfan
Ward, Roberts, Mepham, Rodon, B. Davies, Allen, Morrell, Ramsey, James, Moore, Bale (Capten)
Eilyddion
Hennessey, A. Davies, Gunter, N. Williams, Lockyer, Ampadu, Norrington-Davies, J. Williams, Brooks, Levitt, T.Roberts, Wilson