Cwmni Primark yn ymddiheuro ar ôl atal gweithiwr rhag gwisgo swimper Nadolig Gwyddeleg

22/12/2023
Pobl tu allan i Primark yng Nghaerdydd
NS4C

Mae cwmni Primark wedi ymddiheuro ar ôl i un o’i weithwyr gael gwybod na ddylai wisgo siwmper Nadolig Gwyddeleg i’r gwaith.

Roedd y gweithiwr ifanc sydd ddim eisiau cael ei henwi wedi gwisgo siwmper ‘Nollaig shona’ i’r siop yn Belfast.

Cafodd ei galw i mewn i’r swyddfa a chael gwybod bod y geiriau Gwyddeleg mewn peryg o godi gwrychyn aelodau eraill o staff.

Mae cwmni Primark a gafodd ei sefydlu yng Ngweriniaeth Iwerddon yn 1969 bellach wedi ymddiheuro.

“Does dim polisi sy’n atal defnydd yr iaith Wyddeleg ar ddillad y gweithwyr,” meddai.

“Mae’n wir ddrwg gennym fod hyn wedi digwydd - roedd yn ddigwyddiad ynysig na ddylai fod wedi digwydd, ac rydym yn cymryd camau i roi arweiniad pellach i’n cydweithwyr ar ein polisi dillad gwaith.”

Mae gan Primark mwy na 400 o siopau mewn 16 o wledydd ledled y byd.

Cafodd ei sefydlu gan y diweddar Arthur Ryan a agorodd ei siop ddillad gyntaf yn ei fro enedigol yn Nulyn ym 1969, dan yr enw Penneys.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.