Bachgen 10 oed o Bontypridd yn ennill cystadleuaeth cerdyn Nadolig y Prif Weinidog

15/12/2023
Mark Drakeford

Mae bachgen 10 oed o Bontypridd wedi ennill cystadleuaeth flynyddol cerdyn Nadolig y Prif Weinidog Mark Drakeford eleni. 

Fe enillodd Kai Lloyd, sy’n ddisgybl yn Ysgol Tŷ Coch, y gystadleuaeth gyda’i gerdyn sy’n dangos teulu yn ymgasglu o gwmpas coeden Nadolig –  yw ei “hoff beth” am yr Ŵyl, meddai. 

Bydd y Prif Weinidog yn anfon cerdyn Kai at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys arweinwyr rhai gwledydd.

"Rydw i wedi peintio teulu o amgylch coeden Nadolig gyda seren, gan mai treulio amser gyda fy nheulu yw fy hoff beth am Nadolig,” meddai Kai. 

“Rwy'n falch iawn o ennill cystadleuaeth y Prif Weinidog ac i fy ngherdyn gael ei anfon o amgylch y Byd.” 

Image
Y cerdyn Nadolig
Y cerdyn Nadolig

‘Balch iawn’

‘Dymuniadau’r Nadolig’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni, sy'n cael ei gynnal yn flynyddol ar gyfer plant oed cynradd sy’n mynychu ysgolion arbennig yng Nghymru. 

Dywedodd Rachael Rogers, athrawes ddosbarth Kai, ei bod hi’n “falch iawn” o'i disgybl. 

Dywedodd: “Fe ymdrechodd yn galed iawn a dangosodd sgiliau creadigol wrth feddwl beth oedd y Nadolig yn ei olygu iddo. Llun o deulu adeg Nadolig oedd yn bwysig i Kai."

Mae pawb yn Ysgol Tŷ Coch yn falch o waith “arbennig” Kai , meddai’r pennaeth Simon Wilson. 

Mae’r Prif Weinidog yn hyderus y bydd cerdyn Kai yn rhoi “gwên ar wyneb pob un fydd yn ei agor,” meddai. 

“Roedd cerdyn Kai yn wych ac yn dangos llawer o bobl hapus wrth goeden Nadolig liwgar iawn,” ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.