Newyddion S4C

Y gantores Pink yn cychwyn ei thaith Ewropeaidd 2024 yng Nghaerdydd

21/11/2023
P!NK

Caerdydd fydd man cychwyn ar gyfer taith y gantores Pink yn Ewrop yn 2024.

Bydd y cgantores Americanaidd, sydd yn enwog am ganeuon fel ‘Just like a Pill’ a ‘Get the Party Started’, yn perfformio yn Stadiwm Principality ar 11 Mehefin, ar gychwyn ei thaith ‘Summer Carnival’.

Yna bydd yn perfformio yn Llundain, Lerpwl a Glasgow, cyn teithio ar draws Ewrop ar gyfer cyngherddau yn Iwerddon, y Swistir, Denmarc, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Yr Almaen a Sweden.

Bydd y band Gwyddelig, The Script, a’r artistiaid GAYLE a Kid CutUp yn ei chefnogi ar y daith.

Dyma’r eildro i Pink berfformio yn Stadiwm Principality, ar ôl ei pherfformiad yno yn 2019.

Dywedodd llefarydd ar ran y stadiwm ei bod yn “addas” bod Pink yn dychwelyd wrth i’r stadiwm ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yn ystod yr un mis.

Wrth drafod ei hymweliad â’r brifddinas, dywedodd Pink: "Mae dechrau'r daith yng Nghaerdydd yn mynd i fod yn hwyl. 

“Mae wedi bod yn rhy hir ers i mi fod yng Nghymru, ac mae dathlu 25 mlynedd ers agor y lleoliad anhygoel hwn yn mynd i'w wneud yn gyngerdd hyd yn oed yn fwy arbennig.”

Llun: Odai Afuni

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.