Newyddion S4C

I'm a Celebrity 2023: Nigel Farage eisiau i wylwyr weld y 'fi go iawn'

20/11/2023
s4c

Mae Nigel Farage wedi dweud ei fod yn "arwr" i rai pobl ac yn "ddihiryn" i eraill, wrth iddo ymddangos yn y gyfres newydd o I'm a Celebrity... Get Me Out Of Here.

"Yn y jyngl rydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r fi go iawn," meddai cyn arweinydd pleidiau Ukip a Brexit. 

Mr Farage yw’r ffigwr gwleidyddol dadleuol diweddaraf i serennu ar raglen ITV, gan ddilyn yn ôl traed y cyn ysgrifennydd iechyd, Matt Hancock, y llynedd.

Mae Farage wedi derbyn ffi o £1.5m am gymryd rhan yn y sioe.

Mae hynny’n llawer mwy na’r £320,000 a dalwyd i Hancock y llynedd.

Y llynedd, pleidleisiodd y cyhoedd i Hancock gymryd rhan yn y mwyafrif o heriau y ‘bushtucker trails’. 

Ac mae Farage eisoes wedi'i ddewis gan y cyhoedd i gymryd rhan yn y treial nesaf ar ôl ei ymddangosiad cyntaf ar y sioe - ochr yn ochr â'r seren cyfryngau cymdeithasol Nella Rose mewn gêm o'r enw "Jungle Pizzeria".

Ymhlith yr 'enwogion' eraill sydd yn cymryd rhan eleni mae chwaer Britney Spears, Jamie Lynn Spears, y maître d' o’r gyfres First Dates, Fred Sirieix, a’r canwr Marvin Humes o’r band JLS.

Gwyliodd saith miliwn o wylwyr y bennod gyntaf ddydd Sul yn ôl ffigyrau dros nos.

Mae hynny ychydig dros ddwy filiwn yn llai nag a wyliodd y bennod gyntaf y llynedd, a ddenodd 9.1m o wylwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.