CPD Everton yn derbyn dirwy o golli 10 pwynt yn yr Uwch Gynghrair
Mae Clwb Pêl-droed Everton wedi derbyn 10 pwynt o ostyngiad fel cosb am dorri rheolau elw a cholled Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe fydd y pwyntiau yn cael eu tocio’n syth.
Dyma’r gosb fwyaf yn hanes y gystadleuaeth ac mae’n gadael Everton yn yr 19eg safle yn yr Uwch Gynghrair.
Dywedodd y clwb eu bod nhw yn “syn a siomedig” gyda dyfarniad “hollol anghymesur ac annheg”.
Fe ychwanegodd y clwb eu bod nhw’n bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad yn syth.
Daw hyn ar ôl i’r gynghrair gyfeirio Everton at gomisiwn annibynnol ar ôl adolygu cofnodion holl glybiau’r Uwch Gynghrair ar gyfer y tymor 2021-22.
Yn ôl y rheolau, mae clybiau yn gallu cynnal colledion i fyny at £105 miliwn mewn tair blynedd neu wynebu’r posibilrwydd o gosb.
Llun: Wochit