Newyddion S4C

Bachgen 15 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu ger ysgol yn Leeds

07/11/2023
Trywanu - Leeds

Mae bachgen 15 oed wedi marw ar ôl iddo gael ei drywanu ger ysgol yn Sir Gorllewin Efrog. 

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Horsforth, Leeds, ac mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio.

Dywedodd Heddlu Sir Gorllewin Efrog bod swyddogion wedi’u galw i’r lleoliad toc cyn 15:00 ddydd Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stacey Atkinson: “Rydym yn cynnal ymchwiliadau helaeth i ddarganfod beth yn union arweiniodd at y golled ddiangen hon.

“Rydym yn deall yr effaith aruthrol a’r sioc enfawr y bydd digwyddiad trasig o’r natur hwn yn ei gael ar y gymuned leol.

“Mae ein tîm heddlu cymdogaeth yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys ysgolion yn yr ardal i gynnig cefnogaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.