Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi i ddwy ddynes gael eu taro gan gar yng Nghaerdydd
03/11/2023
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad am tua 01.50 fore ddydd Iau, ar Heol Harris, Tredelerch.
Mae Christian Matthews, 34, o Dredelerch wedi’i gyhuddo o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd bore dydd Gwener ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd yr heddlu bod dynes 45 oed o Trowbridge a dynes 35 oed o Laneirwg eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael eu taro gan gar.
Mae’r ddwy yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.