
Lionel Messi yn ennill y Ballon d'Or
Mae'r seren bêl-droed Lionel Messi wedi ennill tlws y Ballon d'Or 2023 mewn noson wobrwyo ym Mharis.
Enillodd Messi y tlws wedi iddo arwain Yr Ariannin i ennill Cwpan y Byd y dynion am y tro cyntaf ers 1986.
Fe enillodd y wobr am y chwaraewr gorau yn y bencampwriaeth honno hefyd.
Dyma'r wythfed tro iddo ennill y Balon d'Or, sydd yn record.
Sgoriodd 38 o goliau i'w glwb PSG yn nhymor 2022/23 cyn symud i Inter Miami yn yr Unol Daleithiau.
"Mae'n braf bod yma unwaith eto i fwynhau'r foment hon," meddai Messi.
"I allu ennill Cwpan y Byd a gwireddu fy mreuddwyd, mae'n foment wych.
"Mae pob un Ballon d'Or dwi wedi ennill yn sbesial."
Aitana Bonmati oedd enillydd y Ballon d'Or Féminin.
Roedd hi'n aelod o garfan Sbaen wnaeth ennill Cwpan y Byd y merched eleni
Enillodd y Primera División, Cynghrair y Pencampwyr Merched a Supercopa de España Femenina gyda'i chlwb Barcelona y tymor diwethaf.
Enillodd hi y wobr am y chwaraewr gorau yng Nghwpan y Byd Merched eleni yn ogystal.

“Rwy’n falch iawn o ennill y Ballon d’Or,” meddai.
"Mae pêl-droed yn gamp sydd yn cael eu chwarae fel tîm felly hoffwn ymestyn y wobr hon i fy nghyd-chwaraewyr a staff.
"Yn olaf, llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu. Maen nhw'n bêl-droedwyr gwych."
Dyma enillwyr y chwe thlws arall ar y noson:
Tlws Yashin (Gôl-geidwad gorau)- Emiliano Martinez
Tlws Kopa (Chwaraewr Ifanc gorau)- Jude Bellingham
Tlws Socrates (Gwaith Dyngarol gorau)- Vinicius Jr
Tlws Gerd Muller (Prif Sgoriwr)- Erling Haaland
Clwb Merched y flwyddyn- Merched Barcelona
Clwb Dynion y flwyddyn- Manchester City