Gwobr Nobel i'r ymgyrchydd Iranaidd Narges Mohammadi
Mae ymgyrchydd hawliau menywod o Iran, Narges Mohammadi, wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel ar gyfer 2023.
Mae Ms Mohammadi ar hyn o bryd yn treulio 10 mlynedd yn y carchar yn Tehran, prifddinas Iran.
Cafodd enw'r enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni yn Oslo, Norwy, ddydd Gwener.
Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dywedodd Pwyllgor Nobel Norwy fod Ms Mohammadi, 51, yn cael ei hanrhydeddu am ei brwydr yn erbyn gormes merched yn Iran.
Roedd y wobr hefyd yn cydnabod y cannoedd o filoedd o bobl sydd wedi ymgyrchu yn erbyn gwahaniaethu a gormes at fenywod yn y wlad.
Mae Ms Mohammadi yn un o brif ymgyrchwyr hawliau dynol y wlad, ac mae hefyd wedi ymgyrchu yn erbyn y gosb eithaf yno.
Inline Tweet: https://twitter.com/NobelPrize/status/1710218490299170927
Yn ystod y seremoni yn Oslo, dywedodd Ms Reiss-Andersen, cadierydd pwyllgor Nobel fod y wobr wedi'i rhoi i Ms Mohammadi am "ei brwydr yn erbyn gormes merched yn Iran a'i brwydr i hyrwyddo hawliau dynol a rhyddid i bawb".
Mae penderfyniad pwyllgor Nobel hefyd yn anfon arwydd cryf iawn o feirniadaeth i'r awdurdodau yn Iran.
Yn y seremoni, fe wnaeth Ms Reiss-Andersen annog Iran i ryddhau Ms Mohammadi o'r carchar fel y gallai fynychu'r seremoni wobrwyo ym mis Rhagfyr.
“Os bydd awdurdodau Iran yn gwneud y penderfyniad cywir fe fyddan nhw’n ei rhyddhau fel y gall hi fod yn bresennol i dderbyn yr anrhydedd hon,” meddai.
Mewn datganiad i’r New York Times, dywedodd Ms Mohammadi: “Ni fyddaf fyth yn rhoi’r gorau i ymdrechu i wireddu democratiaeth, rhyddid a chydraddoldeb.”

