Newyddion S4C

Pennaeth Addysg Gwynedd yn ymddiswyddo

23/09/2023
Garem Jackson

Mae pennaeth addysg Cyngor Gwynedd, Garem Jackson yn gadael ei swydd “oherwydd rhesymau personol”.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod Mr Jackson yn gadael ei swydd ar ddiwedd mis Medi ar ôl gweithio i’r cyngor am ddegawd.

Cafodd ei ddyrchafu i swydd y pennaeth ar ôl cael ei benodi fel swyddog addysg yn y lle cyntaf.

Mae Mr Jackson a phrif weithredwr y cyngor Dafydd Gibbard wedi ysgrifennu at holl ysgolion y sir i roi gwybod iddyn nhw.

Ychwanegodd y cyngor eu bod nhw eisoes wedi cychwyn ar y broses o benodi olynydd i Mr Jackson yn syth a bydd y prif weithredwr a’r ddau gyfarwyddwr corfforaethol “yn cefnogi tîm rheoli'r Adran Addysg er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth i holl ysgolion y sir."

Dywedodd y cyngor fod Mr Jackson yn y llythyr at yr ysgolion “wedi cyfleu ei ddiolch i’w holl gydweithwyr ar draws cymuned addysg Gwynedd am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad dros ei gyfnod yma” a’i fod "yn nodi iddo ddod i'r penderfyniad hwn oherwydd rhesymau personol".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.