Apêl yn dilyn 'gwrthdrawiad difrifol' ym Mhen-y-bont ar Ogwr
16/09/2023
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig difrifol a ddigwyddodd ar gyffordd Boulevard de Villenave d’Ornon a Heol y Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr.
Bu gyrrwr Citroen C1 gwyn mewn gwrthdrawiad â dynes oedd yn croesi’r ffordd am tua 17:30 nos Wener.
Mae'r ddynes 59 oed yn ddifrifol wael yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae gyrrwr y Citroen yn helpu swyddogion gyda'u hymholiadau.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2300312801.