Y cyflwynydd a’r canwr Wynne Evans yn ennill Celebrity Masterchef
Y cyflwynydd a’r canwr Wynne Evans sydd wedi ennill Celebrity Masterchef eleni.
Mae Wynne, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn lais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Wales, ac yn wyneb cyfarwydd fel y cymeriad Gio Compario ar hysbysebion ‘Go Compare’.
Cyrhaedodd y tri olaf ynghyd â'r actores Amy Walsh a seren Love Island Luca Bish.
Roedd y gyfres eleni o Celebrity Masterchef ar BBC 1, hefyd yn cynnwys wynebau amlwg fel y seren bop Jamelia, y cyflwynwyr Dani Dyer a Dave Benson Phillips, a’r actor James Buckley o’r gyfres The Inbetweeners.
Roedd Wynne Evans wedi sôn yn gyson drwy’r gyfres ei fod yn awyddus i arddangos y cynnyrch a’r cig gorau sydd gan Gymru i’w gynnig fel bara lawr, cennin a chig oen organig.
Roedd hefyd wedi defnyddio prydau cyflym enwog fel cyrri cyw iâr a sglodion o Heol Caroline yn y brifddinas fel ei ysbrydoliaeth mewn rowndiau blaenorol, ac wedi derbyn canmoliaeth gan y beirniaid, Gregg Wallace a John Torode.
Mewn cyfweliad ar BBC Sounds yn dilyn y rhaglen, fe ddywedodd mai un o’i ddylanwadau mwyaf o’r byd coginio oedd y diweddar Ena Thomas, oedd yn gogydd amlwg ar rai o raglenni S4C, gan fod Wynne wedi bod i ddosbarthiadau coginio gydag Ena pan yn blentyn.
Llun: BBC