Newyddion S4C

Tîm pêl-droed menywod Sbaen yn gorymdeithio drwy Madrid ar ôl ennill Cwpan y Byd

22/08/2023
sbaen cwpan y byd

Fe wnaeth tîm pêl-droed menywod Sbaen orymdeithio drwy Madrid nos Lun wedi iddyn nhw ennill Cwpan y Byd. 

Fe enillodd Sbaen o un gôl i ddim yn erbyn Lloegr o flaen stadiwm oedd yn llawn o gefnogwyr yn Awstralia ddydd Sul, gan hawlio Cwpan y Byd Merched 2023.

Roedd gôl Olga Carmona ar ôl 29 munud yn ddigon o sicrhau'r fuddugoliaeth i Sbaen yn Sydney, gan roi'r gorau i obeithion Lloegr o ennill ail gystadleuaeth nodedig o fewn dwy flynedd.

Daeth miloedd o gefnogwyr i strydoedd y brifddinas er mwyn llongyfarch a dathlu gyda'r tîm wrth iddyn nhw wneud eu ffordd o amgylch Madrid mewn bws. 

Cafodd llwyfan ei osod er mwyn llongyfarch y chwaraewyr ar ôl iddyn nhw deithio o gwmpas y brifddinas yn y bws.

Dyma'r tro cyntaf i Sbaen ennill y gystadleuaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.