Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd yn Llandrillo-yn-Rhos, Sir Conwy, yn gynnar fore dydd Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Mercedes arian a wal gerrig ar gornel cyffordd Promenâd y Gorllewin â Marine Parade am 03.37.
Dywed yr heddlu fod dyn yn ei wythdegau wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd Rhingyll Jason Diamond o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau’r gŵr sydd wedi marw.
“Gan mai un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad ac oherwydd y diffyg traffig ar y ffordd ar adeg y digwyddiad, rydym yn apelio ar drigolion yr ardal i ystyried a oes ganddynt recordiadau o’r digwyddiad ar deledu cylch cyfyng yn eu cartrefi neu ffilm fideo cloch y drws a allai fod o gymorth i ni.
“Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â deunydd wedi ei ffilmio i gysylltu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif digwyddiad A132481.”