Stad o argyfwng mewn talaith yng Nghanada o achos tanau gwyllt
Mae stad o argyfwng wedi ei gyhoeddi mewn talaith yng Nghanada o achos tanau gwyllt yno.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan arweinydd talaith British Columbia wrth i filoedd o bobl ffoi o ddinasoedd i'r dwyrain o Vancouver.
Yn ystod ei gyhoeddiad am y sefyllfa ddiweddaraf, dywedodd David Eby fod y wlad yn wynebu ei "thymor gwaethaf erioed o danau gwyllt."
Y ddinas agosaf i'r tanau gwaethaf yw West Kelowna, sydd yn gartref i 36,000 o bobl.
Mae 19,000 o bobl wedi gorfod ffoi o ddinas Yellowknife gyda disgwyl y bydd rhagor yn gorfod gadael dros yr oriau nesaf.
Mae 1,000 o weithwyr allweddol wedi aros ar ôl i ymladd y tanau a chadw trefn yn Nhiriogaethau'r Gogledd Orllewin medd gweinidog amgylcheddol y dalaith honno, Shane Thompson.
Galwodd ar bawb arall i adael ar frys o achos y bygythiad gan y tanau gwyllt.