Crasfa i Gymru yn Nice cyn yr Ewros

Crasfa i Gymru yn Nice cyn yr Ewros

NS4C

FFRAINC 3-0 CYMRU
 
Dim ond 10 diwrnod cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch ym mhencampwriaeth Euro 2020, colli bu eu ffawd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc nos Fercher. 

Llwyddodd ochr Rob Page i sicrhau dechrau da yn erbyn pencampwyr y byd yn yr 20 munud cyntaf, gyda dau arbediad gan Ffrainc yn ystod y munudau cyntaf. 

Gyda’r cloc ar 25 o funudau, daeth cerdyn coch dadleuol i Neco Williams yn dilyn gwiriad VAR am wrthod cyfle i Ffrainc sgorio. 

Methu’r gic gosb wnaeth Benzema ar ôl arbediad cyflym gan Danny Ward, ond buan ddaeth gôl arall hawdd gan Mbappe llai na 10 munud yn ddiweddarach. 

Ni fydd y cerdyn coch yn amharu ar Williams yn ystod yr Ewros, ond bydd yn cael ei wahardd rhag chwarae yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Albania ddydd Sadwrn.

Wrth ymateb i'r gosb ar ddiwedd y gêm, dywedodd Dan James wrth raglen Sgorio ei fod yn dychmygu y byddai Cymru yn "llawer mwy blin" petai cerdyn coch Neco Williams yn cael ei gyflwyno yn ystod y gemau sydd i ddod yn yr Ewros.

Cyn y chwiban hanner amser, roedd Ffrainc ar y blaen gyda 1-0, a Chymru lawr i 10 dyn. 
 
Llai na dau funud fewn i’r ail hanner fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru, yn dilyn gôl gan flaenwr Ffrainc, Antoine Griezmann – gan ddod a’r sgôr i 2-0.

Gyda hanner awr yn weddill, cafodd Bale, Wilson, Allen a Mepham eu hamnewid, gyda Moore, Ramsey, Levitt a Davies yn dod ar y cae. 

Gyda deg munud yn weddill, cafodd gobeithion Cymru ei sathru unwaith eto yn dilyn cyffyrddiad cyntaf yn erbyn y gôl gan Benzema, gan arwain at drydedd gôl Ffrainc gan y blaenwr Ousamane Dembélé. 

Fe fydd Cymru yn wynebu Albania mewn gem gyfeillgar dydd Sadwrn, 5 Mehefin, cyn herio’r Swistir yn eu gêm agoriadol ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn Baku ar 12 Mehefin.