Codi hanner miliwn i'r Eisteddfod eleni yn 'dangos mantais gŵyl symudol'
Mae codi’r mwyaf o arian erioed ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn dangos mantais gŵyl symudol, yn ôl Llywydd Llys yr Eisteddfod.
Ar fore cyntaf yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd, roedd cyfanswm y gronfa wedi cyrraedd £503,610, gan basio’r hanner miliwn am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd Ashok Ahir na fyddai'r fath ymdrech yn bosib os nad oedd yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru.
“Roedden ni dal yn codi arian tan ddoe a bydd mwy yn dod i mewn dros yr wythnos nesa’,” meddai.
“Mae’n dangos pa mor bwysig yw Steddfod sy’n symud o le i le am ei fod yn tanio brwdfrydedd pobol.”
‘Ail-ddechrau cymdeithasu’
Fe wnaeth Llywydd yr Ŵyl, Liz Saville Roberts y cyhoeddiad am y ffigwr terfynol wrth lansio Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn swyddogol o lwyfan y Pafiliwn Mawr.
Dywedodd y trefnwyr bod diolch hefyd i ardaloedd yn Arfon, fel Bangor a oedd wedi codi £20,000.
Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, eu bod nhw wedi gosod targed “uchelgeisiol” o £400,000 bedair blynedd ynghynt.
“Ac yna daeth COVID, gyda’r targed yn ymddangos yn bell o’i gyrraedd,” meddai.
“Does gen i ddim byd ond parch ac edmygedd at ein holl wirfoddolwyr – o Abergwyngregyn i Aberdaron ac o Benrhyndeudraeth i Bontnewydd – am eu holl waith, eu hymroddiad a’u brwdfrydedd.
“Roedden nhw’n benderfynol o gyrraedd y targed, ac fe ail-ddechreuodd y gweithgareddau i gyd ar ôl COVID.
“Rydw i’n grediniol fod y targed ac awydd ein trigolion lleol ar draws y dalgylch i gefnogi’r Eisteddfod wedi helpu i ail-agor Llŷn, Eifionydd ac Arfon yn dilyn y pandemig.
“Fe ddaeth pobl yn ôl at ei gilydd. Fe ail-ddechreuodd y cymdeithasu ac fe lifodd yr arian i mewn i goffrau ein gŵyl.
“Felly heddiw, mae’n bleser cyhoeddi ein cyfanswm - hyd yn hyn. Ac mae’r arian yn dal i’n cyrraedd bron yn ddyddiol.
“A galla i ddim ond diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr, pawb sydd wedi trefnu neu ddod i ddigwyddiad - ac yn fwyaf oll i’n Pwyllgor Cronfa Leol, a Dafydd Rhun y cadeirydd am ein harwain at y fath lwyddiant. Diolch o galon i bawb.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd tan 12 Awst.