Huw Stephens yn derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru

20/07/2023
Huw Stephens

Mae’r darlledwr Huw Stephens wedi derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol De Cymru.

Mae'n dilyn ôl-troed ei dad, yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens, oedd yn olygydd llenyddol, newyddiadurwr a bardd.

Mae Huw Stephens wedi cael diddordeb mewn cerddoriaeth leol erioed ac mae'n dweud mai cael ei eni i wlad sydd yn llawn diwylliant a thalent sydd yn gyfrifol am hynny. 

Daeth y cyflwynydd yn DJ gwirfoddol yn Ysbyty Rookwood yn Llandaf yn 15 oed cyn mynd ymlaen i'r BBC lle y daeth yn gyflwynydd radio ieuengaf erioed ar BBC Radio One yn 17 oed yn 1999. 

Mae’r darlledwr yn enwog am ei waith ar S4C, Radio Cymru, 6 Music, Radio 4, Radio Wales, a Radio Cymru, a chyflwyno darllediadau Glastonbury i deledu’r BBC.

"Rydw i wrth fy modd yn derbyn hwn gan Brifysgol De Cymru,” meddai Huw Stephens.

"Mae Prifysgol De Cymru wrth galon y gymuned leol a mae Caerdydd a de Cymru gyfan yn gwybod pwysigrwydd hynny. Diolch yn fawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.