Newyddion S4C

Achub merlod mewn 'cyflwr ofnadwy' ym Merthyr Tudful

17/07/2023
ceffylau.png

Mae disgwyl i bump o ferlod a gafodd eu hachub ar ôl cael eu darganfod mewn 'cyflwr ofnadwy' wella'n llwyr.

Roedd y merlod yn rhan o grwp o 25 a gafodd eu hachub o Gomin Gelligaer ym Merthyr Tudful. 

Roeddent yn rhedeg yn wyllt at dir comin heb unrhyw arwydd fod unrhyw un yn gofalu amdanynt. 

Yn ôl yr elusen, roedd y merlod mewn cyflwr ofnadwy, yn ofnus o bobl a heb eu hyfforddi.

Roedd un o'r merlod yn feichiog ond bu farw'r ebol ychydig oriau ar ôl ei eni. 

Cafodd y merlon eu hachub gan elusen lles ceffylau ym Mryste.

Fe wnaeth elusen HorseWorld lansio apel i godi arian er mwyn cefnogi'r ceffylau a sicrhau eu bod yn holliach, ond nid oedd modd dangos lluniau ohonynt gan bod ymchwiliad yn cael ei gynnal. 

'Am byth'

Dywed yr elusen HorseWorld nad oedd modd dod o hyd i berchennog ac fod yr ymchwiliad bellach wedi dod i ben heb ganlyniad. 

Fe wnaeth yr elusen gydweithio gyda sawl elusen lles er mwyn cael cynnig cymorth i'r merlod a'u gwneud yn holliach.

Dywedodd Pennaeth Lles Ceffylau HorseWorld, Sarah Hollister: "Y newyddion da ydi fod pob un o'r merlod yn gwneud yn dda ac mae disgwyl iddyn nhw wella'n llwyr. 

"Mae lles y ceffylau, pa mor gyfforddus ydyn nhw a'u hapusrwydd nhw yn hollbwysig. 

"Gall gymryd blynyddoedd i'r merlod hyn gael eu hyfforddi'n llawn ac yn barod i ddechrau ar y bywyd newydd o'u blaenau. 

"Beth bynnag sy'n digwydd yn y dyfodol, unwaith y mae ceffyl neu ferlen yn dod i ofal HorseWorld, rydym yn gwarantu bod ganddyn nhw gartref am byth.

"Ni fydd y merlod byth yn gwybod am esgeulustod, neu yn cael eu cam-drin fyth eto. Maent yn ddiogel am weddill eu hoes."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.