S4C i ddarlledu Tafwyl yn fyw am y tro cyntaf

11/07/2023
Tafwyl

Bydd gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C am y tro cyntaf erioed eleni. 

Fe fydd yr ŵyl, sy’n cynnwys perfformiadau gan restr o artistiaid poblogaidd y byd cerddoriaeth Gymraeg, yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, ac i gynnwys set cyfan Bwncath, sef prif act nos Sadwrn, rhwng 20:00-22:00. 

Daw wrth i’r ŵyl eleni symud o’i lleoliad blaenorol yng Nghastell Caerdydd i gaeau Parc Biwt yn y ddinas.

Ymysg yr artistiaid sy’n perfformio eleni mae Dafydd Iwan, Cowbois Rhos Botwnnog, Dom a Lloyd, Sage Todz, Tara Bandito, Eädyth, Hana Lili, yn ogystal â sawl enw adnabyddus arall. 

Fe fydd Tafwyl yn cael ei chynnal ar 15-16 Gorffennaf ym Mharc Biwt, a hynny er mwyn caniatáu mwy o gynulleidfa. 

Yn ogystal â chael ei darlledu, bydd sawl perfformiad yn cael ei ffrydio’n fyw i S4C Clic, BBC iPlayer, YouTube a Facebook S4C o 13:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul. 

Fe fydd cyfrif cyfryngau cymdeithasol S4C Lŵp hefyd yn rhannu diweddariadau byw a chynnwys “ecsgliwsif” o’r prif lwyfan a’r Sgubor, sef llwyfan newydd yr ŵyl, yn ystod y penwythnos.

‘Tyfu fyny efo Tafwyl’ 

Un sy’n teimlo fel ei bod wedi “tyfu fyny efo Tafwyl” ydy Tara Bethan, a fydd yn perfformio ar y prif lwyfan dan ei henw Tara Bandito gyda’r grŵp Ynys a Band Pres Llareggub.

Dywedodd: “Ro’n i’n arfer gweld bandiau ar y prif lwyfan a meddwl fyswn i wrth fy modd yn perfformio yno ond ar y pryd roedd yn teimlo fel breuddwyd oedd bron yn rhy bell i ffwrdd. 

“Na’i byth anghofio cyflwyno efo Huw Stephens yn 2021 pan oedd y gynulleidfa yn gorfod bod ar fyrddau o chwech, ac eistedd dwy fetr i ffwrdd o’i gilydd [oherwydd rheolau Covid]. 

“Ro’n i mor emosiynol yn gweld y crowd yn dod mewn. Roedd Ani Glass wedi perfformio Mirores efo string quartet a wnes i ddechrau beichio crio achos oeddan ni ddim yn gwybod os oeddan ni byth yn mynd i gael gwneud rhywbeth fel hyn eto. 

“A dwy flynedd yn ddiweddarach ac mae genna’i slot anhygoel, yn canu caneuon fi ac yn perfformio efo Band Pres Llareggub,” meddai.

Wrth ochr Huw Stephens a Lloyd Lewis, fe fydd Tara Bethan yn llywio’r cyfan wrth gyflwyno holl amrywiaeth Tafwyl a sgwrsio cefn llwyfan gyda rhai o’i chyd-berfformwyr. 

Bydd Lloyd Lewis yn ymuno wrth berfformio a chyflwyno eleni. Dywedodd: “Es i i Tafwyl am y tro cyntaf y llynedd pan ro’n i’n perfformio gyda Dom a Sage Todz, ac roedd o’n brofiad ffantastig. 

“Roedd yr awyrgylch yn wych, ac roedd hi mor braf gweld y gymuned Gymraeg yn ne Cymru yn dathlu’r Gymraeg yn y brifddinas.

“Dwi’n blest ofnadwy i gael y cyfle i gyflwyno o’r ŵyl eleni,’ dwi’n gwybod pa mor fawr yw’r achlysur ac mae’n fraint enfawr.”

Ychwanegodd Huw Stephens, sy’n “edrych ymlaen” at groesawu’r ŵyl i Gaerdydd unwaith eto eleni: “Mae Tafwyl bob tro yn lot o hwyl, gydag awyrgylch braf yn dathlu’r Gymraeg yn y brifddinas.

“Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu, gyda’r Gymraeg yn rhan bwysig o ddiwylliant a bywyd bod dydd y ddinas, ac mae Tafwyl yn benwythnos i ddathlu hyn.

“Fi’n edrych mlaen at fwynhau sets o gerddoriaeth o bob math, a mwynhau Tafwyl trwy’r penwythnos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.