Erol Bulut yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd

03/06/2023
S4C

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi mae Erol Bulut yw eu rheolwr newydd.

Mae Bulut, 48, yn cymryd lle’r Ffrancwr Sabri Lamouchi, na chafodd ei gontract tymor byr ei adnewyddu ar ddiwedd y tymor diwethaf er iddo arwain y clwb i ddiogelwch y Bencampwriaeth.

"Mae brwdfrydedd Erol a'i newyn am lwyddiant yn creu argraff fawr arna i," meddai perchennog Caerdydd, Vincent Tan.

“Pan siaradon ni, daeth yn amlwg bod ei ddwyster a’i foeseg gwaith caled yn cyd-fynd â’r nodweddion diwylliannol craidd rydw i eisiau i’n clwb ddychwelyd iddyn nhw.

“Mae ei record wych ym mhêl-droed Ewropeaidd yn cynrychioli safon o brofiad rheolaethol nad ydym wedi’i gael yn clwb pêl-droed Caerdydd o’r blaen.

"Rwy'n gobeithio y bydd ei brofiad yn y maes hwn yn ein galluogi i ddenu proffil a safon uwch o chwaraewr yn y blynyddoedd i ddod."

Nid yw Caerdydd wedi datgelu hyd cytundeb Bulut.

Roedden nhw hefyd wedi ystyried cyn-reolwr Watford, Oscar Garcia.

Mae Bulut wedi bod yn rheolwr ers chwe blynedd, ond bydd symud i Gaerdydd yn golygu bod y cyn chwaraewr rhyngwladol Twrci dan-21 yn gweithio y tu allan i'w famwlad am y tro cyntaf.

Dechreuodd ei yrfa hyfforddi yn Yeni Malatyaspor yn 2017 cyn cymryd yr awenau yn Alanyaspor yn 2019.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.