Twrci yn paratoi am ail rownd yn yr etholiad arlywyddol

Bydd ail rownd yn etholiad arlywyddol Twrci wedi un o'r etholiadau agosaf yno ers degawdau.
Dywedodd Goruchaf Gyngor Etholiadol Twrci ddydd Sul fod gan Mr Erdogan 49.49% o'r bleidlais, tra bod ymgeisydd yr wrthblaid Kemal Kilicdaroglu wedi hawlio 44.79% o'r bleidlais.
Bydd y rownd nesaf yn cael ei chynnal ar 28 Mai am na chafodd yr un o'r ymgeiswyr dros 50% o'r bleidlais.
Mae'r Arlywydd Erdogan wedi bod wrth y llyw am 20 mlynedd fel arweinydd y blaid AK.
Ond mae’n wynebu beirniadaeth am ei reolaeth lem o’r wlad, a chamreolaeth yn dilyn y daeargryn ym mis Chwefror.
'Croesawu'
Mae chwech o wrthbleidiau Twrci wedi cyfuno i ffurfio cynghrair gyda’r nod o ddisodli Mr Erdogan a’i blaid yn yr etholiadau arlywyddol a seneddol.
Arweinydd Plaid Weriniaethol y Bobl (CHP), Kemal Kilicdaroglu, sydd yn eu harwain fel ymgeisydd ac sy’n sefyll dros ei blaid ei hun yn erbyn Mr Erdogan.
Wrth siarad gyda'i gefnogwyr yn Ankara ddydd Sul, dywedodd Mr Erdogan ei fod yn hyderus y gallai ennill yn y rownd gyntaf ond y byddai hefyd yn "croesawu" penderfyniad y genedl pe bai ail rownd yn cael ei chynnal ar 28 Mai.
Fe wnaeth ei wrthwynebydd, Mr Kilicdaroglu, ddiolch i bleidleiswyr, gan nodi'r gefnogaeth ymysg pobl ifanc a merched.