Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd yn trechu'r Bala i hawlio Cwpan Cymru unwaith eto

30/04/2023
gol

Fe wnaeth y Seintiau Newydd roi crasfa i'r Bala o 6-0 yn Stadiwm Nantporth ym Mangor ddydd Sul, gan godi Cwpan Cymru am y nawfed tro yn eu hanes.

Doedd y Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 14 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala cyn y gêm, ac roedd dros pedair blynedd wedi pasio ers y tro diwethaf i’r Bala guro cewri Croesoswallt.

Y Seintiau Newydd oedd y ffefrynnau amlwg ar ôl ennill y bencampwriaeth 22 pwynt yn glir o Gei Connah yn yr ail safle.

Wedi cwta ugain munud o chware fe rwydodd y Seintiau Newydd gyntaf - gôl gan Declan McManus yn agor y llifddorau.

Daeth dwy gôl arall ar ddechrau'r ail hanner i Daniel Redmond a Ryan Brobbel wrth i'r Seintiau gynyddu eu mantais i dair gôl.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Bala ar ddiwedd y gêm, gyda Jordan Williams, Adrian Cieślewicz a Brobbel yn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus ar ddiwedd tymor llwyddiannus i'r Seintiau.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.