Papur bro hynaf Cymru'n dathlu hanner canrif o fodolaeth

14/04/2023
Cloriau y Dinesydd

Mae papur bro hynaf Cymru, Y Dinesydd, yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 y mis hwn.

Y diweddar Dr Meredydd Evans fu’n gyfrifol am blannu’r hedyn cychwynnol hwnnw gyda’r rhifyn cyntaf o bapur bro’r brif-ddinas yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 1973.

Dywedodd Gwilym Dafydd, cydlynydd rhifyn dathlu’r hanner cant, ei fod yn "ddiolchgar iawn i’r arloeswyr a’r cymwynaswyr am gyflawni’r gwaith arloesol bryd hynny. Wedi’r cyfan, doedd dim papurau bro i gael yng Nghymru fel y cyfryw."

Ers hynny mae’r hedyn wedi hen dyfu gyda chriw o ffyddloniaid wedi bod yn ddyfal wrth y llyw yn casglu ac yn adrodd storïau am Gaerdydd a’i phobl dros gyfnod o bum degawd.   

Er mai papur bro oedd y cyhoeddiad yn wreiddiol, nododd Gwilym Dafydd ei fod o’r farn "mai cylchgrawn yw’r Dinesydd erbyn hyn. Hynny yw, mae llawer mwy o golofnwyr yn cyfrannu ato bellach."

Cyhoeddir 10 rhifyn o’r Dinesydd yn flynyddol gyda cholofnau amrywiol megis colofn ar fyd natur, colofn ar fwytai’r brif-ddinas a cholofn chwaraeon ymhlith y cynnwys mwyaf poblogaidd.

Dyfodol papurau bro

Ond er i’r cyhoeddiad gyrraedd carreg filltir nodedig, mae pryderon ynghylch dyfodol y papur, fel nifer o bapurau bro eraill ledled Cymru.  

Pwysleisodd Gwilym Dafydd fod “mwyafrif y tanysgrifwyr a’r rheiny sy’n prynu copi yr ochr anghywir i 60" a’i obaith yw gweld mwy o bobl ifanc yn cyfrannu at y papur yn fisol yn y dyfodol.

Ychwanegodd ei bod hi’n holl bwysig "cael pobl ifancach ar y pwyllgor neu bydd y cylchrediad yn mynd yn llai ac yn llai; ma rhaid i ni gael gwaed ifanc."

Yn ôl Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru sydd yn gweinyddu grant Llywodraeth Cymru i’r papurau bro, mae "angen denu pobl newydd i ymwneud â’u papurau bro – gall hyn fod mewn amryw o feysydd".

Ychwanegodd: "Rhaid peidio cymryd y papur bro yn ganiataol. Cynigwch help llaw gan ddefnyddio eich sgiliau chi".

Addasu

Fel pob cyhoeddiad tebyg yng Nghymru, bu’n rhaid i’r Dinesydd addasu ei ddiwyg a’i gynnwys yn sgil y symudiad at ddarllen cyhoeddiadau’n ddigidol. Mae hyn wedi cynnig gobaith newydd i’r papur yn ôl y pwyllgor sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi.    

Er bod y papur yn cael ei werthu mewn 10 siop ar draws Caerdydd a’r cyffiniau, bellach mae modd prynu fersiwn ddigidol ohono, rhywbeth y mae nifer cynyddol yn ei wneud o fis i fis.

Nododd Gwilym Dafydd fod "llawer mwy o bobl yn darllen Y Dinesydd arlein heddiw, yn cael copïau pdf. Mae llai a llai o rifynnau caled yn cael eu cyhoeddi, ond dyna’r dyfodol dw i’n siwr, darllen Y Dinesydd arlein."

Mae Heledd ap Gwynfor yn cytuno gan nodi "ei bod hi’n gynyddol amlwg fod angen i’r digidol redeg yn gyfochrog â’r print gan mai dyma’r modd y mae’r genhedlaeth nesaf yn darllen eu newyddion/erthyglau/gwybodaeth ayyb".

Ychwanegodd bod angen cymorth ar y "papurau bro er mwyn addysgu’r gwirfoddolwyr i symud i’r byd digidol ac mae angen yr adnoddau arnynt hefyd".

Gyda chopi cyntaf Y Dinesydd wedi ei gyhoeddi fis Ebrill 1973, mae modd bwrw golwg ar rifynnau’r gorffennol ar wefan y papur bro, Dinesydd.cymru.

Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at gael dathlu’r hanner can mlynedd yn Tafwyl fis Gorffennaf ac yn gobeithio am ddyfodol disglair i bapur bro hynaf Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.