Arloesi gyda gwlân i adeiladu llwybrau cyhoeddus
Mae cynllun newydd sy’n defnyddio deunyddiau cynaliadwy yn hytrach na phlastig fel sylfaen ar gyfer llwybrau cerdded wedi ei lansio yn Sir Fôn.
Pwrpas y prosiect, sydd yn cael ei redeg gan Menter Môn â Chyngor Sir Ynys Môn, yw defnyddio gwlân lleol yn lle deunydd plastig i drwsio llwybrau.
Dywedodd Menter Môn bod y gwlân yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd gwlyb i drwsio llwybrau mewn ffordd sy’n amgylcheddol gyfeillgar.
Mae’r gwlân wedi cael ei dreialu mewn gwahanol ardaloedd o Fôn gan gynnwys llwybrau ger Castell Aberlleiniog a Rhos Llaniestyn yn Llanddona.
Yn ôl y fenter, bu tîm y prosiect yn ymgynghori â grwpiau sydd wedi llwyddo i adeiladu llwybrau gwlân mewn gwahanol rannau o’r DU, cyn dechrau ar y gwaith ar Ynys Môn.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Gwnaed â Gwlân, Elen Parry: “Mae’n wych gallu gweithio ochr yn ochr â Chyngor Môn a’n gwirfoddolwyr i ddarparu’r llwybrau gwlân hyn a fydd, gobeithio, yn cael eu defnyddio gan y gymuned am flynyddoedd i ddod.
"Ein nod yw datblygu ffyrdd newydd cynaliadwy o ddefnyddio gwlân er mwyn sicrhau pris tecach i ffermwyr – mae’r prosiect penodol hwn yn rhan o’n hymdrechion i gyflawni hyn, yn ogystal â gwella ein hamgylchedd a lleihau ein heffaith ar ein hamgylchedd.
"Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn llunio canllaw ar sut i adeiladu’r llwybrau yn y gobaith y gall grwpiau eraill ddefnyddio’r wybodaeth a dysgu o’n profiadau ni.”
Mae gwlân o tua 700 o ddefaid wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn, meddai Menter Môn, a'r gobaith yw y bydd yr arbrawf yn codi ymwybyddiaeth ac yn hybu’r deunyddiau cynaliadwy ac opsiynau amgen i blastigion wrth adeiladu llwybrau cyhoeddus.