Cadw Andrew Tate dan glo yn ei gartref ar ôl iddo adael y carchar

01/04/2023
Andrew Tate

Mae Andrew Tate a’i frawd Tristan Tate yn cael eu cadw dan glo yn eu cartrefi yn Romania ar ôl cael gadael y carchar.

Mae’r dyfarniad gan Lys Apêl yn Bucharest yn golygu nad oes hawl gyda nhw i adael eu tai oni bai eu bod nhw’n cael caniatad.

Dywedodd llefarydd ar ran y brodyr eu bod nhw “wrth eu bodd” yn cael gadael y carchar.

Cyhoeddodd Andrew Tate fideo o'i hun ar Twitter (llun uchod) yn ysgmygu sigâr yn ei gartref wedi iddo gael ei ryddhau.

Mae’r brodyr wedi’u cadw yn y ddalfa ers mis Rhagfyr, ond dydyn nhw ddim eto wedi eu cyhuddo ac mae’n nhw’n gwadu torri’r gyfraith.

Mae’r heddlu yn Romania yn cynnal ymchwiliad i honiadau o dreisio, masnachu pobl a ffurfio grŵp troseddol.

Er iddo gael ei wahardd o sawl rhwydwaith cymdeithasol, mae Andrew Tate wedi ennill dilyniant ymysg dynion ifanc am ei agwedd at wrywdod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.